Cor Merched Maldwyn logo fach

Cartref Am y côr Pobl Cyngherddau Cysylltiad

Am y côr

Côr Merched Maldwyn yn 2007

Ffurfiwyd Côr Merched Maldwyn gan y Cadeirydd Mair O`Gorman a’r Ysgrifenyddes Gay Roberts ar ddiwedd 2001, yn benodol i gynrhychioli’r Sir ac i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn, lle cafodd y côr y drydedd safle yng nghystadleuaeth y Côr Merched.

Arweinydd y côr yw Ruth Gittins, ag ar hyn o bryd mae tua 30 o aelodau.

Daw aelodau‘r côr o ardal eang yn Sir Drefaldwyn o Abermiwl i Lanidloes a Llangurig, Bugeildy a Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed a hyd yn oed dros y ffin o Sir Amwythig. Cynhelir cyngherddau o fewn y Siroedd hyn mewn lleoliadau fel Eglwysi, Capeli, Canolfannau Hamdden / Cymunedol a Neuaddau Pentrefi.

Repertoire

Mae cyngherddau‘n cynnwys eitemau detholedig o repertoire eang:

  • Opera (detholiadau)
  • Oratorio (detholiadau)
  • Cerddoriaeth gysegredig
  • Caneuon gwerin
  • Caneuon Negroaidd
  • Caneuon sioeau cerdd
  • Caneuon poblogaidd

Mae’r repertoire yn cynnwys gweithiau sy’n cael eu canu mewn Saesneg, Cymraeg a Lladin, a harmoni dau-ran, tri-rhan a phedwar-rhan (SA, SSA and SSAA).

Yn arferol perfformir unawdau a deuawdau gan aelodau o’r côr. Mae hyn yn galluogi Côr Merched Maldwyn i gyflwyno rhaglen gyngerdd gyflawn.

Yn achlysurol cynhwysir offerynwyr gwadd mewn cyngherddau.

Gwesteion blaenorol:

  • Alecs Peate (telynores)
  • Alwyn Nutting (utgorn)
  • Michael Brennan (bas)

Os yn bosib, ceisiwn wahodd cerddor ifanc (oed ysgol) o ardal lleoliad y cyngerdd.

Ymarferion

Cynhelir ymarferion yn Eglwys Efengylaidd Y Drenewydd, ar Nos Fercher o 7.30 tan 9.00 o’r gloch. Nae’r arferion yn arferol yn ystod tymor ysgol yn unig.

Llwyddiannau Cystadleuthau

Yn ogystal a chael y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Côr Merched yn Eisteddfod Genedlaethol 2003, mae’r côr wedi ennill:

  • Y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Gorawl Agored yn Eisteddfod Ceri am y pedair blynedd ddiwethaf (2004 - 2007)
  • Ail wobr yng nghystadleuaeth Côr Agored yn Eisteddfod Minsterley yn 2007, pryd y cyflwynwyd y côr gyda chwpan i adran Corau Merched yn y gystadleuaeth Gorawl Agored.

 

yn ôl i’r top yn ôl i’r top