Cor Merched Maldwyn logo fach

Cartref Am y côr Pobl Cyngherddau Cysylltiad

Llywydd: Paul Loveluck

Ganwyd Paul Loveluck ym Maesteg yng Nghwm Llyfni De Cymru. Wedi ei addysgu yn Ysgol Ramaged Maesteg aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd i astudio Economeg. Yn dilyn hyn, ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil, gen weithio i’r Bwrdd Masnach a’r Swyddfa Gymreig.

Wedi ei secondiad o chwe’ mis i Fwrdd Coeso Cymru ym 1984, lle bu’n cymryd rhan Prif Weithredwr, fe’i apwyntiwyd i’r swydd hon yn barhaol a bu’n arwain y Bwrdd am ddeuddeng mlynedd. Yn ystod y Cyfnod hwn bu’n weithgar yn hyrwyddo Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bu hefyd yn gysylltiedig â Canwr y Byd Caerdydd. Ym Mehefin 1992 derbyniodd y CBE am ei wasanaeth i’r diwydiant twristiaeth.

Ym 1996 gadawodd Bwrdd Croeso Cymru i fod yn Brif Weithredwr Cyngor Cefngwlad Cymru. Yn y Cyfnod hwn roedd hefyd yn Gadeirydd Cerddorfa Siambr Cymru.

Ymddeolodd o’r Cyngor Cefngwlad yn 2002 a chafodd ei apwyntio yn Llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bu hefyd yn ynad yng Nghaerdydd ers 1982 a throsglwyddodd i’r “Fainc” yn Sir Drefaldwyn yn 2006.

Mae Paul yn hyrwyddwr brwd o’r celfyddydau ac yn 2006 daeth yn aelod o’r panel a ffurfiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu cyllideb. Ers symmud i Drefaldwyn mae’n aelod o Fwrdd Gŵyl Gregynog.

Rydem yn falch o’r fraint o gael Paul yn Llywydd Côr Merched Maldwyn.

 

yn ôl i’r top yn ôl i’r top