|
Gay ynghyd â Mair O'Gormana gyd-sefydlodd y côr yn 2001.
Mae etifeddiaeth cerddorol Gay yn ymestyn yn ôl i 1784: mae hin ddis gynnydd
uniongyrchol i Evan Jones (y "Telynor Dall o Waenoer") a anwyd yn Garthbeibio ag
a oedd, yn ôl pob sôn, yn ddehonglwr arbennig or delyn deires, yn chwaraen
gyson i Iarll Powis ai westeion ac yn cyfeilio i gantorion penillion enwog y dydd yn
Nyffryn Banwy.
Roedd rhieni a chwaer Gay yn gerddorion a chantorion gweithgar yn eu cartref yn
Llanfair Caereinion, ac o dan eu dylanwad hwy mae carddoriaeth, yn enwedig canu, wedi
chwarae rhan angerddol yn ei bywyd. Cafodd ei hyfforddiant ai phrofiad canu yn
Llundain dan gyfarwyddyd yr Athro Joseph Hislop yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall. O
ganlyniad, bun llwyddiannus yn ei gwrandawiad i Gwmni Opera Sadlers Wells.
Mae Gay yn ymfalchio yn ei rhan yng Nghôr Merched Maldwyn ac yn ddiolchgar i Ruth,
"ein harweinydd ysbrydoledig" am ei bod wedi cael ei chyflwyno ir côr ac
yn barod in harwain. Maer berthynas rhwng yr arweinydd âr côr yn un
ffyniannus a gwerthfawr.
Medrwch gysylltu â Gay ag e-bost
neu ffôn (01686 630678).
Mair ynghyd â Gay Roberts sefydlodd y côr yn 2001.
Mae Mair yn hanu o deulu sydd a thraddodiad cryf mewn cerddoriaeth. Roedd ei thad yn
gôr-fachgen yn Abaty Tewkesbury ac enillodd ei chyfnither Lavinia Thomas y gontralto, y
Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Er nad yw Mair wedi cael hyfforddiant ffurfiol,
mae hi wedi canu mewn côr penillion dan arweiniad Noel John (arweinydd enwog Côr Telyn
Teilio) yn ei dyddiau ysgol, ac ar hyn o bryd maen aelod o dri chôr!
Aelodau eraill or pwyllgor
Is Gadeirydd: Ruth Jones
Trysorydd: Ruth E. Jones
Llyfrgellydd: June Williams
Meistres y Gwisgoedd: Llywela Brown
Aelod or Pwyllgor: Mona Davies |