Ganwyd Ruth Gittins yng Nghaerdydd ym 1972. Fei haddysgwyd yn Ysgol
Uwchradd Eglwys Newydd bler astudiodd Lefel-A mewn Cerddoriaeth, perfformiodd yn y
côr a hefyd chwaraeodd yr obo yn y gerddorfa ar band chwyth.Ar ôl hyn aeth Ruth
ymlaen i wneud gradd B. Mus. ym Mhrifysgol Cymru Ceardydd. Astudiodd yr opsiwn datganiad
yn y cwrs gradd gan berfformio repertiore allan o Oratorio, Opera, Lieder, Chanson,
Caneuon Seisnig a Chaneuon Cymreig. Tra yn yr ysgol ar brifysgol manteisiodd Ruth yn
fawr or hyfforddiant lleisiol gan y gantores enwog Maureen Guy. Mae Ruth yn ddyledus
iawn iddi am ei hyfforddiant ai brwdfrydedd ir offeryn cain, sef y llais.
Aeth Ruth yn ei blaen i arawin yr adran gerdd mewn coleg addysg bellach am ddwy flynedd
ac wedyn ail - hyfforddi fel athrawes ysgol uwchradd. Yn 2000 cyfarfyddodd ei gŵr Lawrence
a pharhaodd i weithio am ychydig ar ôl ei phriodas yn 2001. Yn ystod yr amswer hyn cafodd
ei chyflwyno i Gôr Merched Maldwyn a blodeuodd y berthynas. Maen bleser
or mwya ac yn fwyniant pur arwain a gweithio gydar grŵp o wragedd
penigamp.
Nawr mae Ruth yn anelu at ymestyn repertoire y côr ac yn gobeithio ysgrifennu mwy o
drefniadau ei hunan ir côr berfformio. Wedi llwyddiant ei chyffansoddiad Cantata
Nadolig News of Great Cheer mae Ruth yn gobeithio cyfansoddi mwy oi
cherddoriaeth ir côr. Ochr yn ochr â hyn mae Ruth yn edrych ar ôl ei phlant
Bronwen (4 oed), Eleri (2 oed) ai llysferch Niobe (15 oed) a hefyd dysgu yn ogystal
a hyfforddi canu ag elfennau cerddoriaeth yn breifat.
Mae Ruth yn ddiolchgar am y gefnogaeth ar gwaith caled gan y côr (yn enwedig Gay
Roberts) a hefyd ei gŵr ai rhieni. Mae wedi mwynhau gweld y côr yn datblygu ac
maen rhagweld dyfodol disglair, gan wybod fod y gefnogaeth yna. |